Psalms 48

Seion, dinas Duw

Cân. Salm gan feibion Cora.

1Mae'r Arglwydd mor fawr
ac mae'n haeddu ei foli!
Yn ninas ein Duw
ar ei fynydd cysegredig –
2y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus.
Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon
48:2 Saffon Yr enw ar fynydd mytholegol lle roedd y duwiau yn cyfarfod – gw. Eseia 14:13
,
ydy dinas y Brenin mawr.
3Mae Duw yn byw yn ei chaerau,
ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
4Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,
ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
5Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud,
wedi dychryn am eu bywydau,
ac yn dianc mewn panig!
6Roedden nhw'n crynu trwyddynt,
ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
7neu longau Tarshish yn cael eu dryllio
gan wynt y dwyrain.
8Dŷn ni bellach yn dystion
i'r math o beth y clywson ni amdano;
yn ninas yr Arglwydd holl-bwerus,
sef dinas ein Duw –
mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth!

 Saib
9O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml
am dy ofal ffyddlon.
10O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd,
ac yn haeddu dy foli!
Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.
11Mae mynydd Seion yn gorfoleddu!
Mae pentrefi Jwda yn llawen,
o achos beth wnest ti.
12Cerdda o gwmpas Seion,
dos reit rownd!
Cyfra'r tyrau,
13edrych yn fanwl ar ei waliau,
a dos drwy ei chaerau,
er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser.
Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.
Copyright information for CYM